Amdanom ni
Cafodd Living Daylights ei sefydlu yn 1985 gan Tony Heales a Rosalind Hudis (sydd nawr yn canolbwyntio ar ei barddoniaeth). Mae Tony wedi gweithio fel pypedwr llawrydd, ysgrifennydd sgript ac fel cyfarwyddwr (Cwmni Cortyn, Llondllaw, Pypedau Vagabondi, Puppet Lab) ar y sioe teledu poblogaidd, Fflic a Fflac, ac fel beirniad yn Eisteddfod yr Urdd. Creodd gwefan ar gyfer DJ Tutor ac mae'n partner yn Blue Moon Lighting. Mae Living Daylights yn arbennigo mewn sioeau pypedau i blant sydd o ddiddordeb i ystod eang o oedrannau a sydd yn cadw'r oedolion wedi eu diddanu. Mae hefyd ganddynt cymeriadau crwydrol gwych sydd yn cyfathrebu a'r gynulleidfa mewn sawl sefyllfa difyr.
Iechyd, Diogelwch a Thâp Goch
Rydym yn cario Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus gwerth £10m. Mae'r rhan mwyaf o'r offer trydanol yn defnyddio foltedd isel. Pryd ddefnyddir trydan o'r brif gyflenwad mae'r offer i gyd yn cario tystysgrif i brofi eu bod wedi cael prawf PAT. Gall y tystysgrifau cael eu ddangos os gofynnwch ac mae Asesiad Risg yn cael ei gwblhau cyn pob sioe.